GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
016 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022 [Saesneg yn unig] Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Hydref 2022 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Amherthnasol |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Cefndir
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Crynodeb
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnig diwygio cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir mewn perthynas â rheolaethau swyddogol ar fewnforion i Brydain Fawr o anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid, a chynnyrch planhigion (gan gynnwys bwyd) yn ogystal â rheolau am iechyd a lles anifeiliaid, a rheolau ar farchnata deunyddiau plannu a lluosogi, yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Bwriad y diwygiadau yw sicrhau bod y cyfreithiau’n gweithredu’n effeithiol yn y cyd-destun domestig er mwyn diogelu iechyd pobl ac anifeiliaid.
Er enghraifft, mae’r Rheoliadau:
- Yn gwneud darpariaeth ynghylch cosbau am fethu â chydymffurfio â rheoliadau iechyd planhigion.
- Pan fydd yr awdurdod priodol yn gallu gweithredu fel awdurdod cymwys i gynnal rheolaethau swyddogol, ni fydd angen mwyach i'r awdurdod priodol ddynodi ei hun yn awdurdod cymwys (yn hytrach, bydd yr awdurdod priodol, yn ddiofyn, yn awdurdod cymwys).
- Yn trosglwyddo swyddogaethau o'r Comisiwn Ewropeaidd i awdurdodau priodol domestig. Er enghraifft, rhoddir pwerau i awdurdodau priodol (Gweinidogion Cymru, yng Nghymru) wneud rheoliadau i reoli risgiau bioddiogelwch (ond nid oes gorfodaeth i wneud hynny).
- Ymestyn y cyfnodau trosiannol sy'n ymwneud â rheolaethau swyddogol i ganfod rhai sylweddau a gweddillion mewn cynhyrchion o darddiad anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl.
Datganiad gan Lywodraeth Cymru
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd yn cytuno â'r safbwynt cyffredinol a nodir yn natganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 21 Hydref 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Fodd bynnag, nid yw'r datganiad ysgrifenedig yn rhoi enghreifftiau ymarferol (fel y rhai a roddir uchod) o'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau pwysig i'r gyfraith ar anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid a bwyd, planhigion ac iechyd planhigion, ond fe’u disgrifir yn y ffordd fwyaf cyffredinol a lefel uchel yn unig yn y datganiad ysgrifenedig.
Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|